Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Busnes

Mawrth 2020

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Pleidleisio drwy Ddirprwy

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reolau Sefydlog 12 ac 17. Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes wedi'u nodi yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer y Rheolau Sefydlog newydd wedi'u nodi yn Atodiad B. Mae Atodiad C yn cynnwys Canllawiau, a gyhoeddwyd gan y Llywydd, ac mae'n rhoi manylion am sut y bydd y weithdrefn yn gweithio'n ymarferol.

Cefndir

3.        Yn 2016 lluniodd yr Athro Sarah Childs adroddiad annibynnol The Good Parliamenta oedd yn cynnwys 43 o argymhellion ar sut i wneud Tŷ'r Cyffredin yn fwy cynrychiadol a chynhwysol. Mae llawer o'r ymchwil a'r casgliadau yn berthnasol i Gymru ac roedd yr adroddiad yn cymharu darpariaethau absenoldeb mamolaeth a thadolaeth y Cynulliad â darpariaethau seneddau eraill. Nododd nad oes gan Gymru broses ffurfiol; yn lle hynny mae trefniadau’n cael eu gwneud rhwng yr aelodau unigol a'u pleidiau.

 

 

4.        Ar 28 Ionawr 2019 penderfynodd Tŷ’r Cyffredin yn unfrydol gyflwyno cynllun pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Aelodau Seneddol a oedd newydd gael plentyn. Mae'r Rheol Sefydlog dros dro yn dirwyn i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cynllun (12 mis yn wreiddiol) ac roedd y cynnig yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Gweithdrefn i adolygu’r trefniadau o fewn yr amser hwn. Ar 16 Ionawr 2020, oherwydd yr Etholiad Cyffredinol, cymeradwywyd estyniad o chwe mis i roi tan doriad yr haf i’r Pwyllgor Gweithdrefn gwblhau ei adolygiad o'r trefniadau ac adrodd i'r Tŷ.

 

5.        Mae gan rai seneddau eraill sydd â model fel un San Steffan hefyd ddarpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y tai isaf yn Awstralia a Seland Newydd. Fel Tŷ'r Cyffredin, mae’r trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy yn y seneddau hyn wedi'u cyfyngu i absenoldeb rhiant.

 

Datblygiadau yn y Cynulliad

 

6.        Ym mis Tachwedd 2019, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried cyflwyno pleidlais drwy ddirprwy yn y Cynulliad mewn dau gam. Yn gyntaf, ystyried ei weithredu ar gyfer absenoldeb rhiant yn unig, ac yn ail, edrych ar y posibilrwydd o’i ymestyn i salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill, ar ôl i Dŷ’r Cyffredin adolygu ei gynllun. Ysgrifennodd y Llywydd at holl Aelodau'r Cynulliad yn gwahodd sylwadau ar weithredu cynllun ar gyfer absenoldeb rhiant yn y lle cyntaf, a hefyd am y cwestiwn o gymhwystra ehangach ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn y tymor hwy.

 

7.        Ym mis Ionawr 2020, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyflwyno cynllun pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant ar sail prawf tan ddiwedd y pumed Cynulliad, ac yn eu cyfarfod ar 3 Mawrth 2020 cytunwyd ar y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a gynigir yn yr adroddiad hwn, a'r Canllawiau i gyd-fynd â'r newidiadau.

 

 Cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog

Pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant

8.        Mae Rheol Sefydlog newydd arfaethedig 12.41A yn cyflwyno gweithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy i Aelodau sy'n absennol o'r Cynulliad am resymau genedigaeth, gofalu am faban neu blentyn sydd newydd ei fabwysiadu, neu sy’n rhan o drefniant geni ar ran pobl eraill, neu Aelodau sy’n absennol oherwydd camesgoriad neu enedigaeth farw.

 

9.        Nid yw'r cynllun yn orfodol ac mae Aelodau cymwys yn rhydd i barhau i bleidleisio'n bersonol neu ddefnyddio unrhyw drefniadau paru anffurfiol eraill sydd ar gael iddynt.

 

10.     Cynigir bod Rheolau Sefydlog newydd 12.41A – 12.41H (a'r newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 12.41 a 17.48) yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021, sef diwedd y Pumed Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynllun am gyfnod prawf, a mater i'r Pwyllgor Busnes olynol fydd penderfynu a yw am adolygu neu ymestyn y cynllun y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw.

 

Cymhwystra

 

11.     O dan Reol Sefydlog arfaethedig 12.41E, dim ond os yw'r Llywydd wedi barnu bod yr Aelod absennol yn gymwys y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.  Gellir gweld y meini prawf cymhwystra ym mharagraffau 1-4 o'r Canllawiau yn Atodiad C.

 

Cyfnodau Hwyaf

 

12.     Nodir cyfnodau hwyaf y cynllun ym mharagraffau 5-9 o'r Canllawiau. Maent yr un fath â’r rhai a gymhwysir yng ngweithdrefn Tŷ'r Cyffredin ac maent yn seiliedig ar y diffiniadau cyfreithiol o 'absenoldeb mamolaeth arferol' ac 'absenoldeb tadolaeth statudol'.

 

Cwmpas y weithdrefn

 

13.     Yn unol â’r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig 12.41A-G, bydd gweithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar gyfer pob math o bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn neu Bwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, ac eithrio pleidleisiau pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o’i blaid ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad (Rheol Sefydlog 12.41C).

 

14.     Er nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol neu gyfyngiadau ar weithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy ar unrhyw bleidleisiau yn y Cynulliad, mae’r cyfyngiad hwn yn gyson â’r arfer mewn mannau eraill – yn enwedig yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia. Mae'r ddau ohonynt yn eithrio pleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer cynigion sy'n gofyn am gefnogaeth dwy ran o dair o'r holl Aelodau neu fwy na hanner yr holl Aelodau (sef pleidleisiau o dan y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol, ac, yn Awstralia, trydydd darlleniad bil sy'n cynnig newid i'r Cyfansoddiad).

 

15.     Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig 12.41D yn nodi na ddylai pleidlais drwy ddirprwy gyfrif tuag at y niferoedd ar gyfer cworwm; eto, mae hyn yn gyson â’r arfer mewn mannau eraill.

 

Canllawiau

 

16.     Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig 12.41G yn cyfarwyddo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, i gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau ar weithrediad y weithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy. Gellir gweld y canllawiau hynny yn Atodiad B ac maent yn ymdrin â threfniadau ymarferol a gweithdrefnol megis cymhwystra, y cyfnodau hwyaf, dynodi dirprwy, cyhoeddi ac amrywio'r trefniant, a’r egwyddorion ar gyfer arfer y bleidlais drwy ddirprwy. Mae’n rhoi disgresiwn i’r Llywydd benderfynu ar gydymffurfedd â'r cynllun os bydd unrhyw amwysedd.

 

Diwygiadau canlyniadol

 

17.     Mae'r newid canlyniadol i Reolau Sefydlog 12.41 yn galluogi'r weithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy i oresgyn y gofyniad cyffredinol i Aelodau bleidleisio'n bersonol yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r newid i Reol Sefydlog 17.48 yn galluogi Aelod i gynrychioli mwy nag un aelod pwyllgor wrth bleidleisio mewn Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, lle mae'r weithdrefn pleidleisio drwy ddirprwy yn gymwys.

 

Cam i’w gymryd

18.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 3 Mawrth 2020, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B. 

 

 

 


Atodiad A

Atodiad A - Newidiadau a gynigir i'r Rheolau Sefydlog

 

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

 

 

 

Penderfyniadau ar Gynigion a Gwelliannau

 

12.41

Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i’r Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol ac yn bersonol (ond nid yw’n ofynnol iddynt bleidleisio).

Diwygio Rheol Sefydlog dros dro

 

Mae Rheolau Sefydlog 12.41AH yn dileu'r angen i Aelodau sy'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy fod yn bresennol.

 

Bydd y diwygiad dros dro i Reol Sefydlog 12.41 yn peidio â chael effaith ar yr un pryd â Rheolau Sefydlog 12.41AH (6 Ebrill 2021).

 

RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

 

 

 

Dirprwyon mewn Cyfarfodydd

 

17.48

Caniateir i aelod o bwyllgor sydd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i’r cadeirydd gael ei gynrychioli mewn cyfarfod, neu ran o gyfarfod, gan Aelod arall o’r un grŵp gwleidyddol sydd wedi’i enwi ymlaen llaw.  Caiff y cynrychiolydd a enwebwyd gymryd rhan yng nghyfarfod y pwyllgor ym mhob ffordd fel pe bai’n aelod ohono. Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H ar gyfer Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, ni chaniateir i Aelod gynrychioli mwy nag un aelod o bwyllgor mewn cyfarfod.

Diwygio Rheol Sefydlog dros dro

 

Mae Rheolau Sefydlog 12.41AH yn caniatáu i Aelod a enwebir yn ddirprwy gynrychioli (bwrw pleidlais ar ran) ei hun a'r Aelod absennol mewn cyfarfod Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan, nad yw fel arall yn bosibl o dan Reol Sefydlog 17.48 fel y'i drafftiwyd.

 

Bydd y diwygiad dros dro i Reol Sefydlog 17.48 yn peidio â chael effaith ar yr un pryd â Rheolau Sefydlog 12.41AH (6 Ebrill 2021).

 

 

 

 

 

RHEOL SEFYDLOG 12 - Pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant

Is-bennawd dros dro newydd

12.41A

Caiff Aelod, oherwydd absenoldeb o'r Cynulliad yn sgil absenoldeb rhiant, drefnu bod Aelod arall yn bwrw pleidlais ar ei ran fel dirprwy (pleidlais drwy ddirprwy).

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41B

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.41C, caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy ar holl fusnes y Cyfarfod Llawn (gan gynnwys pleidleisiau cyfrinachol o dan Reol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 17) a Phwyllgor o'r Cynulliad Cyfan.

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41C

Ni chaniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.

 

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41D

Rhaid i bleidlais drwy ddirprwy beidio â chyfrif tuag at y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn pleidlais at ddibenion Rheol Sefydlog 12.46.

 

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41E

Dim ond os yw'r Llywydd wedi ardystio bod yr Aelod y mae'r bleidlais i’w bwrw ar ei ran yn gymwys o dan delerau Rheol Sefydlog 12.41A y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.

 

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41F

Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw gan ddirprwy yn glir yn y cofnod o drafodion y  Cyfarfod Llawn neu yng nghofnodion Pwyllgor y Cynulliad Cyfan.

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41G

Rhaid i'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar weithredu’r drefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

12.41H

Bydd Rheolau Sefydlog 12.41A – 12.41H, a'r cyfeiriadau atynt yn Rheolau Sefydlog 12.41 a 17.48, yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

Rheol Sefydlog dros dro newydd

 

Bydd y Rheol Sefydlog dros dro hon yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

 

Penderfyniadau ar Gynigion a Gwelliannau

12.41    Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol ac yn bersonol (ond nid yw’n ofynnol iddynt bleidleisio).

 

RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

 

Dirprwyon mewn Cyfarfodydd

17.48    Caniateir i aelod o bwyllgor sydd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i’r cadeirydd gael ei gynrychioli mewn cyfarfod, neu ran o gyfarfod, gan Aelod arall o’r un grŵp gwleidyddol sydd wedi’i enwi ymlaen llaw.  Caiff y cynrychiolydd a enwebwyd gymryd rhan yng nghyfarfod y pwyllgor ym mhob ffordd fel pe bai’n aelod ohono. Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H ar gyfer Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, ni chaniateir i Aelod gynrychioli mwy nag un aelod o bwyllgor mewn cyfarfod.

 

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

 

Pleidleisio drwy Ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant

12.14A      Caiff Aelod, oherwydd absenoldeb o'r Cynulliad yn sgil absenoldeb rhiant, drefnu bod Aelod arall yn bwrw pleidlais ar ei ran fel dirprwy (pleidlais drwy ddirprwy).

12.41B    Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.41C, caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy ar holl fusnes y Cyfarfod Llawn (gan gynnwys pleidleisiau cyfrinachol o dan Reol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 17) a Phwyllgor o'r Cynulliad Cyfan.

12.41C    Ni chaniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.

12.41D    Rhaid i bleidlais drwy ddirprwy beidio â chyfrif tuag at y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn pleidlais at ddibenion Rheol Sefydlog 12.46.

12.41E    Dim ond os yw'r Llywydd wedi ardystio bod yr Aelod y mae'r bleidlais i’w bwrw ar ei ran yn gymwys o dan delerau Rheol Sefydlog 12.41A y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.

12.41F    Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw gan ddirprwy yn glir yn y cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn neu yng nghofnodion Pwyllgor y Cynulliad Cyfan.

12.41G    Rhaid i'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar weithredu’r drefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.

12.41H    Bydd Rheolau Sefydlog 12.41A – 12.41H, a'r cyfeiriadau atynt yn Rheolau Sefydlog 12.41 a 17.48, yn peidio â chael effaith ar 6 Ebrill 2021.

 


 

Atodiad C

Canllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 12A.2

A.  Cymhwystra

 

1.        Mae pleidleisio drwy ddirprwy ar gael i Aelodau sy'n absennol o'r Cynulliad am resymau genedigaeth, gofalu am faban neu blentyn sydd newydd ei fabwysiadu, neu sy’n rhan o drefniant geni ar ran pobl eraill, neu Aelodau sydd wedi dioddef camesgoriad neu enedigaeth farw.

2.        Rhaid i Aelod ddangos cymhwystra ar gyfer y cynllun drwy hysbysu'r Llywydd am ei fwriad i gymryd absenoldeb rhiant, a darparu unrhyw ddogfennaeth neu fathau o hysbysiad ychwanegol sy’n briodol ym marn y Llywydd.

3.        Nid yw'r cynllun yn orfodol ac mae Aelodau'n rhydd i bleidleisio'n bersonol neu ddefnyddio unrhyw drefniadau paru anffurfiol eraill sydd ar gael iddynt.

4.        Os bydd unrhyw amwysedd, bydd y Llywydd yn defnyddio disgresiwn i benderfynu ar gydymffurfedd â'r cynllun pleidleisio drwy ddirprwy.

 

B.   Hyd

5.        Cyfnod hwyaf yr oddefeb i bleidleisio drwy ddirprwy yw:

·         chwe mis i fam fiolegol baban; y prif fabwysiadwr neu fabwysiadwr sengl sy’n mabwysiadu baban neu blentyn; neu'r prif ofalwr neu ofalwr sengl mewn trefniant geni plant ar ran pobl eraill; a

·         phythefnos i'r tad biolegol neu bartner yr unigolyn sy'n rhoi genedigaeth sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; yr ail fabwysiadwr ar gyfer baban neu blentyn; neu ail ofalwr ar gyfer baban neu blentyn mewn trefniant geni ar ran pobl eraill.

6.        Yn ddarostyngedig i ddisgresiwn y Llywydd, o ran unrhyw gyfnod o bleidleisio drwy ddirprwy a gymerir gan fam fiolegol baban; y prif fabwysiadwr neu fabwysiadwr sengl; neu’r prif ofalwr neu ofalwr sengl mewn trefniant geni plant ar ran pobl eraill, rhaid iddo fel arfer ddechrau ar y dyddiad perthnasol neu cyn y dyddiad perthnasol (y dyddiad geni, y dyddiad mabwysiadu, neu ddyddiad geni plentyn ar ran pobl eraill) a dylid ei gymryd fel cyfnod parhaus. Caiff y cyfnod hwnnw bara hyd at chwe mis, gan gynnwys cyfnodau pan fydd y Cynulliad ar doriad neu wedi'i ddiddymu.

7.        O ran unrhyw gyfnod o bleidleisio drwy ddirprwy a gymerir gan y tad biolegol neu bartner yr unigolyn sy'n rhoi genedigaeth sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; yr ail fabwysiadwr; neu’r ail ofalwr mewn trefniant geni plant ar ran pobl eraill, rhaid iddo gael ei gymryd mewn un cyfnod parhaus o hyd at bythefnos a rhaid iddo ddod i ben cyn pen 56 diwrnod ar ôl i blentyn gael ei eni neu ei leoli i’w fabwysiadu.

8.        Rhaid i Aelod nodi'n ysgrifenedig i'r Llywydd y dyddiadau y bydd yr absenoldeb yn dechrau ac yn dod i ben, yn amodol ar y cyfnodau hwyaf a ganiateir (paragraffau 6 a 7). Yn ystod y cyfnod hwnnw mae gan yr Aelod hawl i fwrw pleidlais drwy ddirprwy.

9.        Defnyddir disgresiwn y Llywydd i bennu cymhwystra a’r cyfnodau hwyaf ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy pan fydd Aelodau neu eu partneriaid wedi dioddef camesgoriad neu enedigaeth farw. Wrth bennu ffactorau o'r fath, bydd y Llywydd yn ystyried hawliau statudol.

 

C.  Dynodi dirprwy

 

10.        Wrth nodi dyddiadau’r absenoldeb, rhaid i’r Aelod sy'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy enwi'r Aelod sydd wedi cytuno i bleidleisio ar ei ran fel dirprwy, a thrwy hynny gadarnhau bod cytundeb wedi'i wneud.

11.        Mae Aelod yn rhydd i ddewis unrhyw Aelod arall i bleidleisio ar ei ran fel dirprwy, ar yr amod bod yr Aelod arall yn cytuno a bod y Llywydd yn cael ei hysbysu.

 

D.  Cyhoeddi'r trefniant

 

12.     Ar ôl cael y wybodaeth hon, ac unwaith y bydd y Llywydd wedi penderfynu ynghylch cydymffurfedd, bydd y Llywydd yn cyflwyno tystysgrif yn nodi enw'r Aelod a enwebwyd yn ddirprwy a'r dyddiadau dechrau a gorffen.

13.     Bydd y 'crynodeb o bleidleisiau' ar gyfer pob Cyfarfod Llawn neu Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan yn nodi bod pleidlais ddirprwy wedi'i bwrw drwy restru'r Aelod a sut y gwnaeth bleidleisio yn y ffordd arferol, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.48 a 17.35, a thrwy nodi pa Aelod a fwriodd y bleidlais ddirprwy ar ei ran.

 

E.   Amrywio'r trefniant

14.     O ran Aelod sydd am newid yr Aelod sy'n ddirprwy ar ei ran, dod â’r cyfnod o bleidleisio drwy ddirprwy i ben yn gynharach na'r hyn a hysbyswyd yn wreiddiol, neu fwrw pleidlais yn bersonol ar (a) eitem(au) busnes penodol, neu atal y trefniant am gyfnod o amser, rhaid iddo roi rhybudd ysgrifenedig i'r Llywydd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau a arweiniodd at wneud y cais ddod yn hysbys (er enghraifft, cyhoeddi agenda’r Cyfarfod Llawn, cyflwyno'r cynnig). Bydd y Llywydd yn defnyddio disgresiwn i benderfynu ynghylch cydymffurfedd yn yr amgylchiadau hyn. 

15.     Bydd y Llywydd yn cyhoeddi ac yn cyflwyno tystysgrif newydd o dan baragraff 12 os bydd angen.

16.     Bydd newidiadau o ran dirprwy a wneir am gyfnod penodol yn dod i rym o ddechrau (neu ddiwedd) y diwrnod(au) a nodir.

 

F.   Arfer pleidlais drwy ddirprwy

 

17.        Rhaid i Aelod sy'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy gytuno â'r Aelod a enwebir yn ddirprwy ar ei ran pryd y bydd y bleidlais ddirprwy yn cael ei bwrw a sut y bydd yn cael ei harfer ar gyfer pob pleidlais.

18.        Rhaid i Aelod a ddynodir yn ddirprwy weithredu yn unol â'r cyfarwyddyd a roddir gan yr Aelod absennol.

19.        Caiff Aelod a ddynodir yn ddirprwy fwrw ei bleidlais ei hun un ffordd a bwrw pleidlais fel dirprwy y ffordd arall, a chaiff fwrw pleidlais fel dirprwy heb fwrw ei bleidlais ei hun o gwbl.

20.        O ran Aelod y cofrestrwyd ei fod yn pleidleisio drwy ddirprwy ac sydd am bleidleisio'n bersonol, bydd ganddo hawl i wneud hynny, ar yr amod yr hysbyswyd y Llywydd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau a arweiniodd at wneud y cais ddod yn hysbys (paragraff 14). Bydd y Llywydd yn defnyddio disgresiwn i benderfynu ynghylch cydymffurfedd yn yr amgylchiadau hyn.

21.        Rhaid i Aelod sy'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy hysbysu'r Aelod a enwir yn ddirprwy ar ei ran am unrhyw fuddiant perthnasol sy'n ei wahardd rhag pleidleisio o dan Reol Sefydlog 2.9.

 

G.  Trefniadau ymarferol ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy

 

22.     Bydd y Clerc yn gwneud trefniadau ymarferol gyda'r Aelod a enwebir yn ddirprwy i arfer y bleidlais drwy ddirprwy.